Mae Pride yn dal i fod yn brotest – codwch eich llais | Scotland
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
Progressive flag

Mae Pride yn dal i fod yn brotest – codwch eich llais

Y mis Pride hwn, rydym yn gwahodd aelodau o'n cymuned amrywiol i siarad am pam bod sefyll gyda’n gilydd mewn undod a balchder bwysig drwy rhannu gyda #CydFalchder.

I gychwyn pethau, mae Prishita Maheshwari-Aplin, ein Harweinydd Adrodd Straeon, yn ein hatgoffa sut gychwynnodd Pride fel protest – ac er ein bod wedi dod yn bell, mae llawer i'w wneud eto cyn bod gan bobl LHDTC+ wir gydraddoldeb.

Mae Pride yn amser i'r gymuned LHDTC+ ddod at ei gilydd a dathlu. Mae gennym gymaint i ymfalchïo ynddo – o'n gwydnwch i'n gallu i garu. Ac mae'r adeg hon yn ein hannog i ddathlu ein hunain, ein hunaniaethau, a'r cyfan yr ydym wedi'i ennill hyd yn hyn.

Ond mae Pride hefyd yn brotest. Rhaid i ni gymryd yr amser yma i gofio bod cynnydd i'w wneud o hyd, a bod anghyfiawnder cymdeithasol yn parhau i fod yn realiti i lawer ohonom. Gyda chynnydd mewn trawsffobia, yr erlid parhaol yn erbyn pobl LHDTC+ ledled y byd, a’r hiliaeth parhaol hyd yn oed yn y gymuned LHDTC+, rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd tuag at ddyfodol gwell i bawb yn ein cymunedau. Rydym yn gweld nifer cynyddol o sefydliadau yn defnyddio’r enfys i nodi Pride wrth i'r mis hwn ennill gwelededd a sylw; ond nid hwn yn unig sy’n cynrychioli cydraddoldeb – mae hybu a chanolbwyntio ar weithrediadau a sefydliadau cymunedol yn parhau i fod yn hanfodol. Oherwydd mae Pride yn amser i godi ein lleisiau mewn undod â phob aelod o'n cymuned amrywiol, fyd-eang hardd.

Mae'n werth cofio mai gorymdaith oedd y Pride cyntaf erioed, nid parêd. Fe'i galwyd yn Christopher Street Liberation March, a nododd flwyddyn ers y Stonewall Uprising yn Efrog Newydd yn 1969. Cyfres o wrthryfeloedd treisgar a arweinir gan y gymuned oedd y gwrthdaro, mewn ymateb i aflonyddwch cyson gan yr heddlu. Cychwynnodd y gwrthryfeloedd hyn nifer o brotestiadau ac ymgyrchoedd a arweiniodd at enillion pwysig i'r gymuned LHDTC+ yn y Gorllewin. Ond yn 2021, mae'r frwydr ymhell o fod drosodd.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos y pwysigrwydd o brotest ac undod. Mae solidariaeth yn weithred barhaus. Mae’n gydnabyddiaeth o'r ffaith pan fydd cymunedau ymylol yn sianelu ein pŵer cyfunol, ein bod yn gryfach nag erioed. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld mudiad Black Lives Matter yn lledaenu ar draws y byd, cannoedd ar filoedd yn siarad dros Balesteina, miloedd yn y DU yn ymgynnull mewn protestiadau #KillTheBill, a 200 o aelodau cymunedol yn mynnu rhyddhau Lakhvir Singh a Sumit Sehdev o garchardy mewnfudo yn ôl i'w cartrefi ym Mhollokshields, Glasgow. Dangosodd symudiadau byd-eang a lleol fel y rhain fod ein lleisiau, gyda'n gilydd, yn dal i fod â phŵer mawr.

Felly, y Pride hwn, gadewch i ni gofio nad yw’r un ohonom yn rhydd nes bod pob un ohonom yn rhydd. A gadewch i ni godi ein lleisiau nes ein bod wedi creu dyfodol mwy disglair a mwy diogel i'r rheini ohonom sydd wedi ein hymyleiddio a'n ecsbloetio fwyaf.

Digwyddiadau Pride ledled y DU

Mae digwyddiadau Pride, protestiadau a ralïau yn cael eu trefnu gan sefydliadau cymunedol lleol LHDTC+ ledled y DU. Beth am fynychu i ddangos eich cefnogaeth i'w gwaith ac i godi eich llais dros eich hawliau?

Pride for All - Pink News: 08 June

Bi Pride (Bi-Fi Fest): 19 June

London Trans Pride: 26 June

Orkney Pride: 26 June

UK Black Pride: 02 July

Southend Pride: 17 July

Trans Pride Brighton: 17 July

Forest Gayte Pride: 14 August

Glitter Cymru: 14 August

Tamworth Pride: 18 August

Pride in London: 11 September

Bi Pride: 18 Sep

Burnt Roti (Middlesex Pride): 26 September

Mynychu Pride yn ddiogel

Wrth drefnu a mynychu digwyddiadau wyneb yn wyneb, mae'n bwysig sicrhau diogelwch ein hunain ac eraill.

Dilynwch ganllawiau Covid-19 y Llywodraeth bob amser, gwisgwch fasg, a chariwch hylif diheintio dwylo.

Os ydych yn mynychu protest, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y cyngor a ddarperir gan y sefydliadau cymunedol isod er mwyn cadw eich hun a'r rhai o'ch cwmpas yn ddiogel.

Green and Black Cross

5 key messages to know your rights on protests.

Black Protest Legal Support

Bust card information for legal support at protests part 1.

Bust card information for legal support at protests part 2.