Stonewall | Become a corporate partner
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
Wine, glasses and brochures at Stonewall Equality Dinner 2019

Dod yn bartner corfforaethol

Helpwch ni i sicrhau realiti drwy'r byd lle mae pawb yn cael eu derbyn yn ddieithriad

Yn Stonewall, rydyn ni'n credu yng ngrym partneriaethau cydweithio ac yn gwybod, drwy gefnogaeth ein partneriaid, ein bod yn gallu newid y byd er gwell. 

Dros y blynyddoedd, mae'r cymorth yma wedi ein galluogi ni i ddatblygu ymgyrchoedd effeithiol ac i weithio'n uniongyrchol gydag ysgolion, cymunedau, unigolion a chwmnïau, gartref a thramor, i wella bywydau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.  

Mae tîm Partneriaethau Corfforaethol Stonewall yn gwybod nad yw un ateb yn addas i bawb, ac felly rydyn ni'n gweithio i ddatblygu cyfleoedd pwrpasol sy'n gweddu i'ch anghenion ac sy'n adlewyrchu eich blaenoriaethau o ran cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.  

Mae'r cyfleoedd i gydweithio yn cynnwys: 

  • Noddi menter gan Stonewall 
  • Datblygu menter Marchnata dros Achos sy'n gysylltiedig â gwerthu cynnyrch 
  • Hysbysebu yng nghyhoeddiadau Stonewall 
  • Gwirfoddoli eich amser i gefnogi ein gwaith 
  • Neu, rywbeth hollol wahanol! 

 Yn gyfnewid, gallwn eich helpu:

  • I ddatblygu sgiliau eich staff, gan gynnwys sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu 
  • I ddenu, ymgysylltu a chadw staff 
  • I gynyddu ymwybyddiaeth o'ch brand a theyrngarwch cwsmeriaid 
  • I hybu gwerthiannau o gynnyrch drwy gysylltu'ch brand ag achos Stonewall 

Rydyn ni yma i wneud gwahaniaeth, a gyda'ch cymorth chi, gallwn sicrhau bod pawb yn teimlo'n rhydd i fod yn nhw eu hunain, lle bynnag maen nhw.   

 

[resource1]

 

Cwrdd â'n Partneriaid Corfforaethol  

Aviva          Lloyd's Banking Group 

    Barclays     

        Virgin Money

  Team Pride 

 

Rhagor o wybodaeth  

I gael rhagor o wybodaeth llenwch y ffurflen isod neu e-bostiwch y tîm Partneriaethau Corfforaethol: corporate@stonewall.org.uk