Ein Cyflogwr Goraum 2020
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Ein Cyflogwr Gorau 2020

Cafodd Cyngor Dinas Newcastle eu cynnwys ymhlith y 100 cyflogwr uchaf am y tro cyntaf yn 2005, a nhw yw'r awdurdod lleol uchaf ers tair blynedd.

Mae'r cyngor yn ymroddedig i'w werthoedd o gydraddoldeb a thegwch, gan ymfalchïo mewn 'bod yn agored ac yn gynhwysol yn ddi-eithriad' er lles eu 5,000 o gyflogwyr a'r gymuned ehangach. Maen nhw wedi dangos yr ymrwymiad yma drwy wreiddio cynhwysiant LHDT ar draws y cyngor, o bolisïau staff, i arferion recriwtio, i gyfathrebu mewnol.

Mae'r cyngor yn arwain y ffordd o ran cefnogaeth i staff, defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau traws, gan weithio'n agos gyda sefydliadau traws lleol i godi ymwybyddiaeth o brofiadau traws. Ym mis Tachwedd 2019, bu i'r cyngor gydweithio â'r Gwasanaeth Iechyd a phartneriaid rhanbarthol eraill, ar gynhadledd arloesol a oedd yn gwella dealltwriaeth o anghenion pobl draws, ac anghenion y gymuned draws leol yn benodol.

Mae ei rwydwaith staff LHDT gweithgar yn cynnal cynllun mentora am yn ôl ar gyfer uwch arweinwyr, er mwyn eu helpu i ddeall profiadau bywyd staff LHDT. Mae'r rhwydwaith hefyd yn darparu cefnogaeth gyfrinachol i staff LHDT, ac mae'n cynnig adborth adeiladol yn gyson i'r cyngor ar faterion yn ymwneud â chynhwysiant LHDT.

Mae'r grŵp, ochr yn ochr â'i rwydwaith cynyddol o gynghreiriaid, wedi arwain ystod eang o weithgareddau ymgysylltu cymunedol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn wedi cynnwys ymgyrch '7 diwrnod o Falchder' yn y cyfnod cyn Pride Newcastle, ynghyd â digwyddiadau ar gyfer Diwrnod Gwelededd Deurywiol, Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, a Dydd y Cofio Trawsryweddol.

Mae'r rhwydwaith wedi ymwneud yn gyson â chymunedau amrywiol ar draws y ddinas, gan godi ymwybyddiaeth o faterion rhyngblethu, a dod â phobl grefyddol LHDT, pobl groenliw LHDT, a phobl LHDT ag anableddau at ei gilydd.

Mae'r cyngor hefyd yn dangos cefnogaeth amlwg a chryf gan uwch arweinwyr ar draws y sefydliad. Mae arweinwyr, cyfarwyddwyr ac uwch arweinwyr y cyngor yn cymryd pob cyfle i fod yn llafar am eu cefnogaeth i gymunedau LHDT.

Mae Cyngor Dinas Newcastle yn hyrwyddwr dros newid a derbyn pobl, gan weithio i sicrhau bod pawb yn teimlo'n rhan o ddinas Newcastle, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd.

Dychwelyd i'n tudalen 100 Cyflogwyr Gorau 2020.