Rhaglen Hyrwyddwyr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
Hero box
Rhaglen Hyrwyddwyr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
Mae ein rhaglen Hyrwyddwyr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yn helpu i roi cynhwysiant LHDT wrth galon gwaith Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ac Iechyd y Cyhoedd.
Byddwn yn helpu i lunio atebion arloesol yn seiliedig ar eich anghenion lleol i gefnogi plant a phobl ifanc LHDT yn well, ynghyd â gwella eu hiechyd a'u llesiant. Gallwch gael mynediad at ystod o gefnogaeth arbenigol gan gynnwys cyngor wedi'i deilwra, hyfforddiant ac adnoddau, ynghyd â theclynnau er mwyn gwerthuso a gwella eich polisïau a'ch arferion.
Bydd gennych ystod o gyfleoedd i ddysgu hefyd, fel ein Cynhadledd Plant a Phobl Ifanc.
Pam fod ots?
- Mae 84% o bobl ifanc draws wedi hunan-niweidio. Yn achos pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol nad ydynt yn draws, mae 61% wedi hunan-niweidio
- Mae 45% o bobl ifanc draws wedi ceisio lladd eu hunain. Yn achos pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol nad ydynt yn draws, mae 22% wedi ceisio lladd eu hunain
- Dim ond 40% o bobl ifanc LHDT sydd ag oedolyn adref y gallan nhw siarad gyda nhw am fod yn LHDT
Aelodau
Edrych ar ein haelodau
Cysylltwch â ni
I ddysgu mwy am y rhaglen, beth yw manteision aelodaeth a sut i gymryd rhan, anfonwch e-bost at cyps@stonewall.org.uk.
Prif fanteision
Beth sydd gan ein haelodau i'w ddweud
Left column
Right column
Quote wrapper
Pam dod yn Hyrwyddwr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc?
Hyfforddiant a chefnogaeth
Pan fyddwch chi'n dod yn Hyrwyddwr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, bydd gennych fynediad at reolwr cyfrif penodedig i gael cymorth a chanllawiau wedi'u teilwra. Byddwn yn gweithio gyda chi i nodi eich camau nesaf, gosod eich blaenoriaethau, a'ch helpu chi i'w cyflawni. I wneud y mwyaf o'n harbenigedd, bydd gennych hawl i gael hyfforddiant gan Stonewall. Ar gyfer swyddogion Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ac Iechyd y Cyhoedd, gallwch ddewis rhwng:
- Cyflwyniad i gefnogi plant a phobl ifanc LHDT
- Cyflwyniad i gefnogi plant a phobl ifanc draws neu sy'n cwestiynu eu rhywedd
- Dathlu gwahaniaeth a herio ystrydebau rhywedd yn y Blynyddoedd Cynnar
Ar gyfer aelodau etholedig:
- Cyflwyniad i'r problemau mae plant a phobl ifanc LHDT yn eu hwynebu
Arferion gorau
Byddwch yn dod yn rhan o rwydwaith o awdurdodau lleol sy'n arwain y ffordd ym maes cynhwysiant LHDT. Gallwch arddangos eich gwaith i awdurdodau lleol eraill drwy ein hastudiaethau achos, a gallwch gwrdd ag aelodau eraill yn ein digwyddiadau addysg.
Adnoddau
Byddwch yn cael mynediad llawn at ein hadnoddau addysg poblogaidd. Bydd ein hadnoddau yn eich helpu chi i deilwra'r gefnogaeth rydych yn ei chynnig ar draws Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ac Iechyd y Cyhoedd. Gydag adnoddau newydd yn cael eu rhyddhau bob tymor, ac ystod o gymorth eisoes ar gael ar-lein, bydd popeth sydd ei angen arnoch i adeiladu ar eich gwaith cynhwysiant LHDT ar flaenau eich bysedd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw'r diweddaraf o ran polisi cenedlaethol ac arferion gorau, felly gallwch aros ar flaen y gad.
Dyfarniadau Hyrwyddwyr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
Bydd modd i chi wneud cais am Ddyfarniad Hyrwyddwyr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Mae ein Dyfarniadau ar gael ar lefel Efydd, Arian neu Aur, ac yn meincnodi eich gwaith gan eich helpu i ymestyn er mwyn goresgyn heriau newydd. Dathlwch lwyddiant eich awdurdod lleol gyda defnydd arbennig o'n logo Hyrwyddwyr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.