Chwaraewch Ran
Creu gweithleoedd cynhwysol
Center Bottom
Hero box
Ymunwch â channoedd o sefydliadau ymroddedig sy'n rhyddhau potensial eu gweithwyr. Bydd ein rhaglen flaenllaw yn eich helpu i greu gweithle sy'n gynhwysol o bobl LHDT.
Grym gweithleoedd cynhwysol
Rydyn ni'n credu yng ngrym gweithle sy'n wirioneddol gynhwysol. Gweithleoedd lle mae pob gweithiwr LHDT yn cael ei dderbyn yn ddieithriad.
Ond allwn ni ddim cymryd cynhwysiant yn ganiataol. Mae'r cyflogwyr gorau yn deall yr angen i gymryd cynwysoldeb o ddifri. Maen nhw'n deall y dylai staff fod yn gallu bod yn agored am bwy ydyn nhw yn y gwaith. Maen nhw'n deall bod cynhwysiant yn arwain at ganlyniadau unigol, busnes a sefydliadol gwell.
Mae ein holl Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn rhannu'r gred gyffredin yma.
Sut ewch chi ati i gefnogi'ch gweithwyr LHDT?
Group 1
Group 2
Group 3
Group 4
Ein Cyflogwr Gorau yn 2018
Left column
Right column
Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL
Quote wrapper
Rydym yn falch o gefnogi ein rhwydwaith staff LHDT ac rydym yn parhau i weithio i greu diwylliant cynhwysol - nid yn unig i'r bobl sy'n gweithio yma ond i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli ar draws cymunedau amrywiol Cymru gyfan.
LHDT yng Nghymru - Adroddiad Gwaith (2018)
Left column
Right column
Mae adroddiad Stonewall, sy'n seiliedig ar ymchwil YouGov gydag 800 o weithwyr LHDT, yn datgelu profiadau pobl LHDT yn y gweithle. Mae'r canfyddiadau'n cynnwys bod:
- Traean y gweithwyr LHDT (34 y cant) wedi cuddio'r ffaith eu bod nhw'n LHDT yn y gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan eu bod yn ofni gwahaniaethu.
- Tri ymhob deg o bobl draws (30 y cant) wedi wynebu sylwadau neu ymddygiad negyddol gan gydweithwyr oherwydd eu hunaniaeth.
- Un ym mhob pedwar o bobl ddeurywiol (26 y cant) heb ddod allan wrth neb yn y gwaith